CEC 30
_______________________________________________________________________________________

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical | Services for care experienced children: exploring radical reform

Ymateb gan Comisiynydd Plant Cymru | Evidence from Children's Commissioner for Wales
­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­_______________________________________________________________________________________

 

Gwybodaeth gefndir am Gomisiynydd Plant Cymru / Background information about the Children’s Commissioner for Wales

 

Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hybu hawliau a lles plant. Wrth ymarfer ei swyddogaethau, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu pob rhan o bwerau datganoledig Senedd Cymru sy’n effeithio ar hawliau a lles plant.

 

Mae CCUHP yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu CCUHP yn sylfaen ar gyfer llunio pob polisi i blant a phobl ifanc ac mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth ymarfer eu swyddogaethau, i roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP.

 

Nid yw’r ymateb hwn yn gyfrinachol.

Blaenoriaeth 1

 

Buddsoddiad i ehangu’r gefnogaeth i deuluoedd ar gyrion gofal;

 

•          O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), mae gan blant hawl i fywyd teuluol (Erthygl 9) a hawl i dderbyn cefnogaeth gymdeithasol os bydd angen cymorth arnyn nhw neu eu teuluoedd (Erthygl 26). Mae edrych ar gefnogaeth o safbwynt hawliau dynol yn helpu i gyfleu neges bod plant a theuluoedd yn derbyn y gwasanaethau mae arnynt eu hangen oherwydd bod ganddyn nhw hawl i hynny, a bod hynny’n cefnogi eu hawl i gael bywyd teuluol (Erthygl 9). Mae hyn yn osgoi agwedd ddiffygiol sy’n dweud wrth deuluoedd bod angen help arnynt ar gyfer rhywbeth nad yw ganddynt, ac yn lle hynny, yn anfon neges gadarnhaol, grymusol bod cefnogaeth ar gael i deuluoedd oherwydd bod ganddyn nhw hawl i’w derbyn, beth bynnag mae bywyd yn ei daflu atynt.

 

•          Gan fod Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw manwl i’r angen am leihau nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal, a chadw teuluoedd yn ddiogel gyda’i gilydd, mae’n hanfodol gwella’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran gwasanaethau cymorth i deuluoedd ac ymyriadau. Bu fy rhagflaenydd, yr Athro Sally Holland, yn rhannu safbwyntiau gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn 2019 ynghylch y cynigion i leihau nifer y plant sy’n mynd i ofal. Roedd y llythyr hwnnw’n cyflwyno’r cydbwysedd o ran hawliau plant sydd angen derbyn sylw fel rhan o’r cyfeiriad polisi hwn. Roedd hefyd yn cyflwyno’r angen am fyfyrio ar y dulliau gweithredu amrywiol roedd Awdurdodau Lleol a’r Farnwriaeth yn eu defnyddio, ac ystyried ar y cyd beth yw’r ffordd orau o gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd trwy ymyriadau a reolir a chefnogaeth hygyrch.  

 

•          Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen gyda gwaith ar y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol i nodi ymarfer seiliedig ar gryfderau a hybu cysondeb ymarfer. Rwyf hefyd yn croesawu cynlluniau i roi Gwasanaethau Eiriolaeth Rhieni ar waith, gan fod hynny’n offeryn pwysig i rymuso teuluoedd sy’n dod yn destun ymyriad statudol. Mae fy Ngwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn dal i weld llif cyson o rieni’n cysylltu â’n swyddfa i geisio cyngor ar brosesau amddiffyn plant ac achosion gofal. Fodd bynnag, oherwydd fy nghylch gorchwyl, er bod fy Swyddogion yn gallu cynghori ar brosesau amddiffyn plant, ni allwn roi cyngor i deuluoedd sy’n destun achosion cyfreithiol cyfraith gyhoeddus.

 

•          Yn ogystal â’r gwaith hwn, mae angen gwella’r hyn a gynigir o ran gwasanaethau ymyrraeth gynnar yn y gymuned, sy’n gallu cynnig cefnogaeth ymarferol i deuluoedd. Rwy’n ymwybodol bod cyllid wedi cael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi trawsffurfio gwasanaethau plant. Pan fydd modd, rwy’n teimlo y byddai’n fuddiol i Lywodraeth Cymru rannu crynodebau o sut mae’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gryfhau’r maes hanfodol hwn o waith cymorth i deuluoedd.  

 

•          Rwy’n dal i bryderu’n arbennig ynghylch y lefelau o dlodi a chaledi sy’n rhan o fywydau llawer o blant a’u teuluoedd. O ganlyniad, mae’n hanfodol bwysig bod gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn cael eu cefnogi’n ddigonol i weithio mewn modd mwy ymwybodol o dlodi, a bod gwasanaethau cefnogi yn eu lle i helpu teuluoedd. Mae canfyddiadau interim o’m harolwg diweddar, Gobeithion i Gymru, wedi amlygu hyd a lled pryderon plant a rhieni ynghylch cael mynediad i anghenion sylfaenol. Er enghraifft, dywedodd 45% o blant 7-11 oed, a 26% o bobl ifanc 12-18 oed, eu bod yn pryderu am gael digon i’w fwyta. Roedd eu pryderon yn cael eu hadleisio gan rieni, gyda  36% yn dweud eu bod yn pryderu am eu plant yn cael digon o fwyd. Roedd bron dau draean (61%) o’r rhai 7-11 oed yn pryderu na fyddai gan eu teuluoedd ddigon o arian ar gyfer y pethau angenrheidiol, fel yr oedd mwyafrif (52%) o’r plant 11-18 oed. Rwyf wedi galw droeon am ddatblygu Cynllun Gweithredu ynghylch Tlodi Plant, un â ffocws sy’n cael ei yrru gan dargedau, gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag achosion gwaelodol tlodi plant yng Nghymru. 

 

Blaenoriaeth 2

 

Amddiffyn Plant – cryfhau rhannu gwybodaeth rhwng y sefydliadau sy’n ymwneud â Diogelu plant a phobl ifanc, a chryfhau strwythurau atebolrwydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.

 

•          Rwy’n croesawu cynlluniau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a’u partneriaid i gryfhau’r trefniadau ar gyfer dysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant, a datblygu’r rhaglen Adolygiad Diogelu Sengl Unedig (SUSR). Rwyf wedi cael fy sicrhau y bydd hyn yn cryfhau sut mae’r hyn a ddysgir o adolygiadau yn cael ei ledaenu yng Nghymru. Rwy’n deall y bydd ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.

 

•          Fodd bynnag, rwy’n dal i bryderu am effeithiolrwydd rhannu gwybodaeth a’r systemau atebolrwydd sydd gennym yng Nghymru yn sylfaen ar gyfer ein gweithdrefnau diogelu, ac fe hoffwn i weld adolygiad yn cael ei gynnal o strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd Byrddau Diogelu Cymru.  

Rhannu gwybodaeth;

 

•          Amlygodd yr Adolygiad Ymarfer Plant yn sgîl marwolaeth Logan Mwangi fethiannau yn ein system amddiffyn plant. Yn yr Adolygiad, oedd yn cynnwys argymhellion cenedlaethol, roedd yn eglur bod angen cymryd mwy o gamau i gryfhau systemau rhannu gwybodaeth yng Nghymru, a hynny ar draws yr asiantaethau lluosog sy’n ymwneud ag amddiffyn plant. Rwy’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi perchnogi’r argymhellion cenedlaethol, a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal adolygiad carlam o’r strwythurau a’r prosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynghylch pryd caiff plentyn ei roi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’i dynnu oddi arni. Fodd bynnag, o ystyried y ffaith bod diffyg rhannu gwybodaeth yn codi’n barhaus fel thema mewn Adolygiadau Ymarfer Plant, rwyf o’r farn bod angen i’r argymhelliad cenedlaethol i “ystyried comisiynu adolygiad llawn o systemau cofnodi, casglu a rhannu gwybodaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg a’r Heddlu” gael ei roi ar waith fel blaenoriaeth yn anad dim arall, gan fod rhannu gwybodaeth yn effeithiol yn elfen greiddiol o system ddiogelu effeithiol. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i gefnogi’r weledigaeth o alluogi mwy o blant i aros gartref yn ddiogel, gan ei fod yn sicrhau bod yr holl asiantaethau sydd â rôl wrth ddiogelu plant yn rhannu gwybodaeth mewn modd sy’n cefnogi Awdurdodau Lleol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch unrhyw risgiau a amlygir.  

 

Atebolrwydd a Llywodraethiant Byrddau Diogelu Rhanbarthol;

 

•          Wedi i’r Gofrestr Amddiffyn Plant gael ei chyhoeddi, ysgrifennais at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi fy mhryderon ynghylch trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol Cymru. Wrth wneud hynny, fe nodais fy mhryderon ynghylch y trefniadau atebolrwydd oedd yn gysylltiedig â gweithrediad byrddau diogelu rhanbarthol o argymhellion oedd yn deillio o adolygiadau, gan bwyso am roi sylw i’r maes diogelu hwn mewn unrhyw adolygiad neu gynllun a allai gael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. O’r hyn rwy’n deall, nid oes cynlluniau ar waith i ystyried y trefniadau atebolrwydd, ac mae’r sefyllfa bresennol yn parhau fel y mae, hynny yw bod holl aelodau’r byrddau yn parhau’n atebol i’r sefydliadau penodol sy’n eu cyflogi hwy. Er fy mod yn cydnabod y cynigion SUSR sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru (fel y soniwyd uchod), rwy’n credu y byddai adolygiad o’r math hwn yn ddiamau o gymorth i gryfhau trefniadau diogelu plant.    

 

Blaenoriaeth 1

 

Rhaid i wasanaethau a chefnogaeth rymuso plant a sicrhau eu bod yn rhan o bob penderfyniad sy’n effeithio ar eu bywydau.

 

• Mae gan bobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal hawl i gael mynediad at eiriolaeth statudol annibynnol. Mae hynny’n golygu, pan fydd plant yn mynd i ofal neu’n dod yn destun ymchwiliad amddiffyn plant, bod rhaid mynd ati’n benodol i gynnig cefnogaeth eiriolydd annibynnol iddyn nhw.  Ers i hyn gael ei weithredu mae mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael mynediad at y gefnogaeth hon i rannu eu barn a’u teimladau ynghylch penderfyniadau. Fodd bynnag, rwy’n dal i bryderu nad yw pob plentyn cael mynediad at eiriolaeth ar yr un sail. Er enghraifft, canfu ymchwil gan TGP Cymru fod plant mewn cartrefi preswyl yn llai tebygol o gael mynediad at eiriolaeth annibynnol, gan mai ambell gartref yn unig oedd â threfniadau ymweliadau eiriolaeth. Mae plant ag anableddau dysgu hefyd o dan anfantais, gydag AGC yn nodi pryderon bod angen cryfhau’r cynnig gweithredol o eiriolaeth i blant anabl, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyfleu eu dymuniadau a’u teimladau’n well ynghylch materion sy’n effeithio ar eu bywydau.   

 

•Mae grymuso pobl ifanc yn golygu sicrhau eu bod yn gwybod eu hawliau a’r pethau y dylent eu cael, a bod modd eu cefnogi i herio penderfyniadau yn ôl y galw. Mae fy Swyddfa’n hybu defnydd o fframwaith hawliau plant ymhlith cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi gwasanaethau fydd yn cynnwys plant yn well wrth gyflwyno a dylunio eu gwasanaethau. Yr enw ar hyn yw Y Ffordd Gywir, ac mae’n fframwaith a seiliwyd ar egwyddorion gwreiddio, grymuso, cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu, cyfranogiad ac atebolrwydd. Gwelwyd enghreifftiau da o sut mae gwasanaethau’n cyflawni egwyddor atebolrwydd trwy fecanweithiau adborth a phrosesau hwylus i blant gyflwyno cwynion a herio penderfyniadau. Fodd bynnag, gellid cryfhau hyn ledled Cymru i sicrhau bod mecanweithiau ar gyfer herio penderfyniadau a chyflwyno cwynion ffurfiol yn fwy hygyrch. Yn y cyfamser, mae fy ngwasanaeth Cyngor bob amser ar gael i blant a phobl ifanc gysylltu â nhw i gael cefnogaeth, ac rydym ni’n rheolaidd yn cefnogi plant i herio a chyflwyno cwynion os byddant yn dymuno gwneud hynny. Mae fy Swyddfa hefyd wedi cynnig cefnogi Swyddogion Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu mecanwaith atebolrwydd ac adborth ar gyfer eu hagenda helaeth o ddiwygiadau radical, gan ei fod yn bwysig i blant y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw ddeall beth fydd ystyr y newidiadau i’r dyfodol, a gallu monitro cynnydd yn erbyn yr addewidion hyn.  

 

•          Mae grymuso cefnogaeth a gwasanaethau hefyd yn golygu bod modd i blant ddisgwyl cysondeb yn y gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn. Ers dod yn Gomisiynydd, rwyf wedi synnu at ba mor aml mae plant yn codi materion cysondeb. Rwyf wedi cwrdd â phlant a fu â nifer sylweddol o weithwyr cymdeithasol yn ystod eu cyfnod mewn gofal, rhai ohonynt â gweithwyr cymdeithasol lluosog yn ystod un flwyddyn. Codwyd hyn yn ddiweddar gan aelodau o Fwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru, a fu’n myfyrio ar eu profiadau eu hunain o ymwneud â’r Gwasanaethau Plant. Buon nhw’n rhannu negeseuon pwerus ynghylch effaith negyddol ailadrodd eu hanesion a’u profiadau, a’r teimlad nad oedd yr oedolion hynny oedd yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu bywydau yn eu hadnabod. Er fy mod yn cydnabod y pwysau ar ymarferwyr gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bwysig bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut mae newid oedolion sy’n cefnogi yn gyson yn effeithio ar blant a’u gallu i feithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth. Mae hyn yn golygu bod trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr eraill yn gwbl hanfodol.  

 

•          Rhaid cefnogi plant i ddeall, mewn modd oed-briodol, pam cafodd penderfyniadau eu gwneud, ac mae hynny’n cynnwys cyfathrebu pam mae plant wedi cael eu lleoli mewn gofal. Mae’n gwbl hanfodol bod plant yn cael eu cefnogi i ddeall eu profiadau mewn modd sy’n sensitif ac oed-briodol, gan fod hynny’n cefnogi hawliau plant i gael gwybodaeth (Erthygl 17) a’u hawliau i warchod eu hunaniaeth (Erthygl 8).

 

Blaenoriaeth 2:

 

Pan gaiff plant eu derbyn i ofal, gallant fyw mewn cartrefi (cartrefi gofal, cartrefi maeth neu drefniadau gyda pherthnasau) sy’n ddiogel, yn eu meithrin, ac yn bodloni’r safonau a nodir yn y gyfraith;

 

Mae hynny’n golygu sicrhau bod hawliau plant i gael eu cefnogi i fyw mewn lleoedd sy’n eu cefnogi i ddatblygu a chyflawni eu potensial (Erthygl 6), i ymadfer wedi trawma (Erthygl 39) a hefyd i gael safon byw digonol (Erthygl 27) yn cael eu cynnal.

 

Mae hyn hefyd yn golygu bod unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch lleoliad a gofal plentyn yn cael eu gwneud yn unol â’u lles pennaf, gydag Erthygl 3 o CCUHP yn ystyriaeth arweiniol. O ganlyniad, rwyf wedi cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n dileu’r elfen o wneud elw o wasanaethau plant er mwyn cryfhau’r hawl honno ymhellach.

 

Mae hefyd yn eithriadol bwysig bod trefniadau cyswllt â siblingiaid yn cael eu gwreiddio yn y prosesau cynllunio ac adolygu gofal, er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi i gynnal perthynas gyda’u siblingiaid, os na allant fyw gyda’i gilydd, os yw hynny er eu lles pennaf. Yn yr Alban, mae’r ddeddfwriaeth ynghylch hyn wedi cael ei chryfhau, gan roi mwy o gefnogaeth i hawl plant i gael bywyd teuluol o dan Ran 13 o Ddeddf Plant (yr Alban) 2020 a Rheoliadau Diwygiedig Plant sy’n Derbyn Gofal (yr Alban) 2021.

 

Mae fy Swyddfa’n parhau i bryderu bod plant sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth wedi cael trafferth sicrhau mynediad at leoliadau sy’n gallu cefnogi eu hanghenion emosiynol ac ymddygiadol oherwydd diffyg llety diogel, therapiwtig yng Nghymru. Cyhoeddwyd dau adroddiad gan y swyddfa hon yn ystod cyfnod yr Athro Holland yn y swydd, i annog gwasanaethau cymdeithasol a iechyd i ddod at ei gilydd i gefnogi a chynllunio gwasanaethau i blant ar y cyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’n hargymhellion ynghylch cyllid tymor hwy i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRhau) gyflwyno llety newydd trwy sefydlu’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF). Rydyn ni’n falch o nodi bod BPRhau wedi defnyddio’r cyllid hwn a chyllid ICF ar gyfer prosiectau perthnasol. Er bod pob rhanbarth wedi datblygu cynigion ynghylch y ffordd orau i’w rhanbarthau wneud hyn, hyd yma rwy’n ymwybodol mai un lleoliad newydd, pedwar gwely, a ariannir ar y cyd sy’n weithredol ar hyn o bryd, ac yn cynnig lleoliadau y mae mawr angen amdanynt i blant. Rwy’n mawr obeithio y bydd llawer o’r prosiectau hyn yn dod yn weithredol eleni ledled Cymru.

 

Rwyf hefyd yn pryderu’n fawr bod rhai pobl ifanc, oherwydd diffyg llety addas, yn byw mewn lleoliadau nad ydynt yn bodloni’r safonau uchel a ddisgwylir gan leoliad cofrestredig i blant. Lleoliadau yw’r rhain sy’n Gweithredu heb Gofrestriad (OWR), ac sydd o ganlyniad heb eu cofrestru gydag AGC. Er mai nifer bach o’r rhain sydd, rwy’n ymwybodol bod AGC wedi cofnodi cynnydd sylweddol yn y defnydd o leoliadau OWR/heb eu cofrestru. Adlewyrchir y tueddiad hwn yn fy ngwasanaeth achosion fy hun, gan fod galwadau wedi’u derbyn – yn aml gan aelodau o’r teulu – sy’n pryderu am y trefniadau a wnaed ar gyfer plentyn.   

 

Enghraifft ddienw o’m Gwasanaeth Gwaith Achosion: Cysylltwyd â’m swyddfa gan aelod o deulu oedd yn pryderu ynghylch person ifanc (16 oed). Roedd y person ifanc wedi bod yn derbyn gofal yn flaenorol o dan drefniant staffio 2:1, a hynny o dan Orchymyn Diogel. Yna cawson nhw eu gosod mewn trefniant lled-annibynnol heb ei reoleiddio, oherwydd diffyg opsiynau cam i lawr.  

 

Enghraifft ddienw o’m Gwasanaeth Gwaith Achosion: Cysylltwyd â ni gan berson ifanc 14 oed oedd yn derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yng Nghymru. Roedd y person ifanc yma’n pryderu nad oedd yn derbyn gwybodaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Daeth i’r amlwg fel rhan o’r achos eu bod hefyd yn cael eu symud rhwng lleoliadau yng Nghymru a Gogledd Lloegr. Ar un adeg yn eu gofal, roedden nhw wedi cael eu gosod mewn lleoliad brys yn Lloegr oedd ar ffurf ‘camper van’ gyda staff cefnogi yn byw ynddo.   

 

Cyflwynwyd gan:

Rocio signature

Rocio Cifuentes MBE

Comisiynydd Plant Cymru